Pwy sydd â gofal - Bwrdd Cyfarwyddwyr

Mae undebau credyd yn cael eu rhedeg gan eu haelodau. Maen yn ethol Bwrdd Cyfarwddwyr a Phwyllgorau eraill mewn Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol. Yn y CCB ertholir y Cyfarwyddwyr am gyfnod o dair blynedd, gan sicrhau bod un o bob tri’n newid bob blwyddyn, er mwyn cynnal y profiad. Yn y cyfarfod cyntaf yn dilyn y CCB mae’r Cyfarwyddwyr yn ethol pobl i’r swyddi a ganlyn:

Rhaid cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol o fewn 6 mis i ddiwedd y flwyddian ariannol sy’n rhedeg o 1 Hydref hyd 30 Medi. Fel arfer byddwn yn cynnal ein CCB ym mis Chwefror bob blwyddyn.

Mae rheolau Caledfryn yn caniatáu uchafswm o 15 o gyfarwyddwyr a lleiafswm o 5. Datblygwyd ein rheolau ar sail cyfarwyddyd gan ABCUL, ein cymdeithas fasnachac fe’u cymeradwywyd gan yr FSA. Mae’r cyfarwyddwyr i gyd yn aelodau o’r gymuned sy’n gweithio’n wirfoddol a heb dâl. Maent hefyd yn der byn hyfforddiant priodol fel y gallant gyflawni’r dyletswuddau a restrir isod:

Pwyllgor Credyd

Mae ein rheolau yn yn caniatáu uchafswm o 6 a lleiafswm o 3. Fe’u hetholir yn y CCB. Maent yn aelodau sy’n gweithio’n wirfoddol a heb dâl. Eu prif ddyletswyddau yw:

Pwyllgor Goruchwylio

Mae ein rheolau’n dweud y dylai fod 3 aelodar y pwyllgor hwn. Fe’u hetholir yn yr un modd â hwnnw a ddisgrifir i’r bwrdd Cyfarwyddwyr a’r Pwyllgor Credyd. Eu prif ddyletswyddau yw:

Mae gan Undeb Credyd Caledfryn swm mawr o wybodaeth a phrofiad cyn ac ar ôl ei sefydlu ym mis Chwefror 2000. Gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod mewn dwylo diogel.

Hawlfraint © 2002 Undeb Credyd Caledfryn Cyfyngedig. Cedwir Pob Hawl

Contact Us
Back to Home Page
Click to view in English