

Website revamp in progress, please use the contact us link above to let us know your thoughts on website content and general site design.
Member Balance Enquiry, you will be able to log in to this website to get up-to-date share and loan balances.
At Caledfryn, a loan of £100 would cost just £12.69 in interest, over 52 weeks!
Mae undebau credyd yn y gymuned ac yn perthyn i’r gymuned. Gwirfoddolwyr sydd wrth wraidd pob undeb credyd a heb eu cyfraniad ni fyddai undebau credyd yn gallu goroesi. Mae un o’r prif agweddau llwyddiannus ar dwf mewn unrhyw undeb credyd yn cynnwys nifer ei gwirfoddolwyr a’r rhannau maent yn eu chwarae ynddi.
Yn ogystal â rhoi budd i’ch undeb credyd, mae gwirfoddoli hefyd yn rhoi cyfle ichi gymryd rhan weithgar mewn gwasanaeth cymunedol hanfodol.
Efallai hefyd mai hwn yw’r cyfle y buoch yn chwilio amdano i ennill sgiliau newydd neu wella eich sgiliau presennol. Fel y rhan fwyaf o undebau credyd, rydym ni yn Undeb Credyd Caledfryn yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli.
Mae gwirfoddolwyr yn llenwi nifer o rolau yn yr Undeb Credyd, fel:
Byddai sgiliau, profiad neu ddiddordeb mewn cael profiad yn y canlynol yn golygu y gallech helpu ac ennill rhywbeth hefyd o wirfoddoli:
Darperir hyfforddiant a chymorth priodol a gwerthfawrogir eich cyfraniad yn fawr, yn enwedig gan yr aelodau.
Peidiwch â bod ag ofn cyflwyno eich hun a gofyn am ragor o fanylion – rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr yn benodol wrth inni ehangu ledled y sir. Fel y nodir uchod, ni allwn ddatblygu na darparu lefel y gwasanaeth y mae ein haelodau’n ei ddisgwyl heb gymorth gwirfoddolwyr.
Gallech hefyd ganfod ei fod yn brofiad gwerth chweil iawn! Mae rhai o’n haelodau wedi cael cyflogaeth drwy’r sgiliau maent wedi’u datblygu neu eu gwella wrth wirfoddoli i’r undeb credyd.