Cynilion – Sut mae cynilo arian gydag undeb credyd?

Mae undebau credyd yn cynnig ffordd gyfleus a diogel o gynilo arian s. Mae pob £1 yn gyfwerth ag un cyfranddaliad ac mae aelodau’n cynilo cymaint neu gyn leied ag yr hoffant ond yn rheolaidd. Gall cynilion dyfu’n gyflym unwaith y bydd yr arfer wedi ei sefydlu ac mae aelodau’n cael eu hannog i barhau i gynilo hyd yn oed wrth ad-dalu benthyciad.

Po fwyaf o gynilion sydd gan yr undeb credyd mwyaf y gronfa sydd ar gael i’w benthyca i’r aelodau.

Pa mor ddiogel yw fy arian?

Councillor Dave Jones,  officially opening the new offices at 19 Bridge Street, Denbigh, 10th May 2002.Rheoleiddir undebau credyd gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) a rhaid iddynt gydymffurfio â Deddf Undebau Credyd 1979. Mae gan bob undeb credyd yswiriant sy’n diogelu eich cynilion rhag lladrad neu dwyll. Ar ben hyn, Mae gan bob undeb credyd bwyllgorgoruchwylio sy’n gwarchod ei weithrediadau o ddydd i ddydd.

Yn ogystal, o 2 Gorffennaf 2002, caiff undebau credyd yn y wlad hon eu cefnogi gan gynllun iawndal cenedlaethol drwy’r FSA sydd ar hyn o bryd yn cefnogi pob banc a chymdeithas adeiladu – sy’n golygu y cewch iawndal os bydd yr undeb credyd yn mynd i’r wal. Nid ydym yn dychmygu dim o'r farth yn achos ein hundeb credyd ni ond mae’n cynnig tawelwch meddwl mawr i’n haelodau. Mae’n cynnig yswiriant llawn ar eich £2000 cyntaf.

Difidendau

Defnyddir cynilion i roi benthyciadau i aelodau. Mae’r llog ar fenthyciadau’n cael ei ailfuddsoddi yn yr undeb credyd. Defnyddir unrhyw elw i ychwanegu at y gronfa wrth gefn a/neu i dalu difidend i aelodau.

Tynnu arian

Mae croeso i aelodau dynnu eu cynlion ar unrhyw adeg. Fel arfer mae angen rhybudd o wythnos, os nad yw cynilion aelod yn sicrhau benthyciad. Anogir aelodau er hynny i adael llonydd i’w cynlilon. Mae hyn yn sicrhau eich bod:

Aelodau iau

I ddod yn aelod llawn rhaid i chi fod yn 16 oed neu drosodd, ond mae llawer o undebau credyd yn cynnal cynllun cynilio iau sy’n annog pobl ifanc i ymuno ac i ddatblygu’r arfer o gynilio arian. Ar ôl cyrraedd 16 oed bydd aelodau iau’n dod yn aelodau llawn yn awtomatig ond yn ôl y gyfraith rhaid iddynt aros am ddwy flynedd eto cyn dod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad.

Nid yw aelodaeth iau o Undeb Credyd Caledfryn ar gael i rai dan 16 oed ar hyn o bryd. Rydym yn derbyn bod hwn yn faes pwysig ac mae ymhlith ein blaneoiraethau ar hyn o bryd. Rydym yn ymwybodol iawn fod perthyn i undeb credyd yn ffordd ragorol o feithrin yr arfer o gynilo mewn pobl ifanc.

I ddod yn aelod llawn rhaid i chi fod yn 16 oed neu drosodd, ond mae llawer o undebau credyd, fel ninnau, yn cynnal cynllun cynilio iau sy’n annog pobl ifanc i ymuno ac i ddatblygu’r arfer o gynilio arian. Ar ôl cyrraedd 16 oed bydd aelodau iau’n dod yn aelodau llawn yn awtomatig ond yn ôl y gyfraith rhaid iddynt aros am ddwy flynedd eto cyn dod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad.

Mae Undeb Credyd Bro’r Gororau yn croesawu cynilwyr ifanc – clicicwch ar “Islwytho ffurflenni” ar y chwith am ffurflen gais a dilynwch y camau sydd yn cael eu hegluro yn yr adran aelodaeth.

Adneuo Arian

Dewch â’ch adnau (arian parod neu siec), bonyn talu a llyfr cyfrif i swyddfa’r undeb credyd yn Ninbych neu i unrhyw un o’n mannau caslgu yn ystod oriau agor. Caiff eich llyfr cyfrif ei ddiweddaru ar unwaith.

Opsiwn haws yw cynilo drwy Orchymyn Sefydlog – os oes cyfrif Banc neu Gymdeithas Adeiladu gennych beth am islwytho ffirflen Gorchymyn Sefydlog o’r tudalen islwytho ffurflenni neu glicio yma a’i hanfon atom drwy’r swyddfa neu un o’r mannau casglu.

Hawlfraint © 2002 Undeb Credyd Caledfryn Cyfyngedig. Cedwir Pob Hawl

Contact Us
Back to Home Page
Click to view in English