Dod yn aelod
Gall unrhyw un dros 16 oed ddod yn aelod llawn o undeb credyd os ydynt yn rhan o fond cyffredin. Yn ôl y gyfraith maen rhaid i chi fod yn 18 neu drosodd i dderbyn benthyciad.
Nid
yw aelodaeth iau ar gael i rai dan 16 oed ar hyn o bryd. Rydym yn derbyn bod
hwn yn faes pwysig ac mae ymhlith ein blaenoriaethau ar hyn o bryd. Rydym
yn ymwybodol iawn fod perthyn i undeb credyd yn ffordd ragorol o feithrin
yr arfer o gynilo mewn pobl ifanc.
Mae aelodaeth iau ar gael i rai dan 16 oed. Rydym yn derbyn bod hwn yn faes pwysig ac un on blaenoriaethau ar hyn o bryd yw cynyddu maint ein haelodaeth iau. Rydym yn ymwybodol iawn fod perthyn i undeb credyd yn ffordd ragorol o feithrin yr arfer o gynilo mewn pobl ifanc.
Mae undebau credyd yn seiliedig ar fond cyffredin. Mae hyn yn golygu fod gan yr aelodau i gyd rywbeth yn gyffredin. Mae ein bond yn cynnwys unrhyw un syn byw neun gweithio yn Sir Ddinbych ir de or A55.
Os ydych yn rhan on bond cyffredin, Maen hawdd iawn ymaelodi ân hundeb credyd. Dilynwch y camau syml isod. Ar ôl i chi gael eich derbyn, gofynnir i chi dal tâl aelodaeth bychan o £1.00 ac yna gallwch ddechrau cynilon rheolaidd a manteisio hefyd ar yr holl fuddiannau syn dod yn sgil aelodaeth.
Camau Syml i Ymaelodi
Noder maen hanfodol eich bod yn byw neun gweithio yn Sir Ddinbych ir de or A55.
Cam 1
Llenwir ffurflen gais, clicio ar Ffurflenni iw hislwytho yma neu ar y chwith.
Cam 2
Darparu dau brawf adnabod ac un or rheini o leiaf yn dangos eich cyfeiriad presennol.
| Er enghraifft: Prawf adnabod derbyniol | Er enghraifft: Prawf cyfeiriad derbyniol |
| Trwydded Yrru | Bil am gyflenwad nwy, trydan ayb |
| Pasport | Datganiad banc/cerdyn credyd |
| Cerdyn adnabod cyflogwr gyda ffotograff | Llyfr cyfrif cymdeithas adeiladu |
| Trwydded Geni | Llyfr Budd-daliadau |
| Cerdyn GIG | Bil Treth Gyngor |
Os nad ydych yn byw yn Sir Ddinbych ond yn gweithio neun astudio yma:
Gofalwch y gallwch ddarparu dogfennau ychwanegol:
Myfyrwyr Dogfen yn dweud eich bod yn astudio mewn sefydliad addysg yn Sir Ddinbych.
Gwirfoddolwyr Dogfen gan y sefydliad yn dweud eich bod yn gwneud gwaith gwirfoddol yn Sir Ddinbych.
Gweithwyr Slip cyflog neu ddogfen arall yn dango eich enw ac enw a chyfeiriad eich cyflogwr.
Cam 3
Postio eich ffurflen gais neu ddod â hi ir swyddfa neu un o'r mannau casglu gydar canlynol:
Eich dau brawf adnabod
£1 tâl aelodaeth a
Eich cynilion cyntaf - £1 o leiaf
Cam 4
Cysylltu â ni:
Swyddfa Gofrestredig yr Undeb Credyd
- 19 Lon Sowter, Dinbych, Sir Ddinbych, LL15 1BT
Mannau Casglu
- 19 Lon Sowter, Dinbych gyferbyn âr Plough
- Y Llyfrgell, Stryd y Ffynnon, Rhuthun gyferbyn â Swyddfar Heddlu
Gweler "Cysylltu" ar y chwith am fanylion oriau agor.
Cam 5
Unwaith y bydd eich cais am aelodaeth wedi cael ei gymeradwyo, byddwch yn derbyn llyfr cyfrif ac yn cael dechrau cynilo ar unwaith ac yn rheolaidd. Gallwch gynilo hefyd drwy Orchymyn Sefydlog os oes cyfrif banc gennych gallwch is lwytho ffurflen gais am Orchymyn Sefydlog, or tudalen is lwytho neu glicio yma os yw hynnyn fwy cyfleus.
Hawlfraint © 2002 Undeb Credyd Caledfryn Cyfyngedig. Cedwir Pob Hawl
