Main Logo
 

 

 

Coming soon

Member Balance Enquiry, you will be able to log in to this website to get up-to-date share and loan balances.

 

Random image

At Caledfryn, a loan of £100 would cost just £12.69 in interest, over 52 weeks!

 

Camau Syml i Ymaelodi
Sylwer
- mae’n hanfodol eich bod yn byw neu’n gweithio yn Sir Ddinbych i’r de o’r A55.

Cam 1 - Llenwch ffurflen gais ymaelodi; cliciwch ar “Ffurflenni wedi’u llwytho i lawr” yma neu ar y bar llywio ar y chwith.

Cam 2 - Darparwch ddau brawf adnabod ac mae’n rhaid i 1 o’r rhain o leiaf ddangos eich cyfeiriad cyfredol.

Os nad ydych yn byw yn Sir Ddinbych ond yn gweithio neu’n astudio yma, sicrhewch y gallwch ddarparu dogfennau ychwanegol:

Myfyrwyr – Dogfen sy’n nodi eich bod yn astudio mewn sefydliad addysgol yn Sir Ddinbych.

Gwirfoddolwyr – Dogfen o’r sefydliad sy’n nodi eich bod yn cwblhau gwaith gwirfoddol yn Sir Ddinbych.

Cyflogeion – Slip cyflog neu ddogfen arall sy’n dangos eich enw ac enw a chyfeiriad eich cyflogwr.

Cam 3 - Dewch â’ch ffurflen gais i’n swyddfa neu i fan casglu Corwen neu ei phostio gydag:

Eich dau brawf adnabod, ffi ymaelodi £2 ac

Eich cynilion cyntaf – o leiaf £1
Swyddfa Undeb Credyd: 19 Stryd y Bont, Dinbych, Sir Ddinbych, LL16 3LF

Man casglu Corwen: Canolfan Gymunedol Llygadog, Clawdd Poncen, Corwen LL21 9YD.
Gweler y ddolen "Gwybodaeth Gyswllt” ar y bar llywio chwith am amseroedd agor y mannau uchod.

Cam 4 - Pan fydd eich cais am aelodaeth wedi’i gymeradwyo, byddwch chi’n cael paslyfr a gallwch ddechrau cynilo ar unwaith ac yn rheolaidd. Gallwch hefyd gynilo drwy orchymyn Archeb Sefydlog os oes gennych gyfrif banc - llwythwch ffurflen gorchymyn Archeb Sefydlog i lawr o’r dudalen Llwytho ffurflenni i lawr neu cliciwch yma er cyfleustra.