Pa fuddiannau yswiriant sydd ar gael gydag undebau credyd?
Mae undebau credyd wedi manteisio ar eu cadernid unedig i ddarparu yswiriant ar gynilion a benthyciadau iw haelodau drwy Cuna Mutual Insurance Group syn eiddo ir mudiad undebau credyd.
Darperir yr yswiriant hwn iw aelodau heb unrhyw gost ychwanegol ac mae Undeb Credyd Caledfryn yn manteision llawn ar y ddarpariaeth hon i'w aelodau ei hun.
Yswiriant ich cynilion
Pan
fyddwch yn cynilo gydan hundeb credyd mae yswiriant bywyd am ddim ar
eich cynilion mae lefel yr yswiriant hwnnwn dibynnu ar oedran
(gweler isod) ac maen cyfateb ir swm sydd wedi ei gynilo. Nid
ywr yswiriant ond yn daladwy yn achos aelodau syn marw.
Mae ein hundeb credyd yn talur premiwm am yr yswiriant hwn on helw felly nid oes cost ychwanegol i chi. Dyma gymhelliad ychwanegol i chi gynilo arian yn rheolaidd gan wybod bod eich cynilion yn ddiogel.
Cymhwysedd
Os ydych yn cynilo gydan hundeb credyd ac os ydych o dan 70 oed, rydych yn gymwys i dderbyn yr yswiriant bywyd hwn ar eich cynilion.
Manylion yr yswiriant
Am bob £1 rydych chi yn ei chynilo gydan hundeb credyd:
|
OEDRAN
|
YSWIRIANT
|
| Cyn 65 oed | am bob £1 - 100% o yswiriant |
| 65 - 70 oed yn | gynwysedig am bob 25c - 25% o yswiriant |
Mae maint yr yswiriant yn dibynnu ar eich oedran wrth gynilo arian yn unol âr siart uchod. Er enghraifft, os ydych wedi cynilo £100 cyn cyrraedd 65 oed a heb dynnu unrhyw swm wrth gyrraedd 66 oed, byddwch yn parhau i gael yswiriant o 100%. Os ydych yn tynnu swm or cynilion hynny yn 66 oed, byddai yswiriant o 100% ar eich cynilion gwreiddiol. Byddai yswiriant o 25% ar unrhyw gynilion wedi hynny nes i chi gyrraedd 70 oed, pryd bydd eich yswiriant yn dibynnu ar y siart uchod.
Hynny yw, os ydych o dan 70 oed ac yn parhau i gynilo gydach undeb credyd byddwch yn cael yswiriant bywyd am ddim.
Yswiriant ar eich benthyciad
Unwaith eto, mae yswiriant am ddim at bob benthyciad ar gael in haelodau hyd nes iddynt gyrraedd 70 oed. Daw yswiriant marwolaeth i ben ar ôl cyrraedd yr oedran hwnnw.
Os bydd aelod yn marw caiff y ddyled ei diddymu ac fei had-delir ir undeb credyd gan y polisi yswiriant ac eithrio yn achos yr amodau oedran a nodir uchod.
Cyfyngiad Rhagamodol
Mae cyfyngiad rhagamodol safonol o 6 mis ar yswiriant ar gynilion a benthyciadau.
Mae pob adnau (cynilion) newydd gan aelod a phob cytundeb newydd am fenthyciad yn ddarostyngedig ir cyfyngiad 6 mis hwn.
Ni fydd Cuna Mutual Group yn talu yswiriant ar weddill adnau neu gytundeb am fenthyciad os bydd yr aelod yn marw oherwydd salwch neu anaf a fodolai cyn hynny y cafwyd cyngor, ymgynghoriad neu driniaeth meddygol yn ei gylch o fewn 6 mis cyn iddynt adneuor arian neu gael cytundeb am fenthyciad.
Maer cyfyngiad hwn yn parhau am gyfnod o 6 mis o ddyddiad dechrau pob adnau neu gytundeb am fenthyciad. Os bydd aelod yn marw 6 mis neu ragor ar ôl dyddiad yr adnau neu ddechraur cytundeb am fenthyciad, ni fydd y rheol hon yn gymwys.
Hawlfraint © 2002 Undeb Credyd Caledfryn Cyfyngedig. Cedwir Pob Hawl
