

Website revamp in progress, please use the contact us link above to let us know your thoughts on website content and general site design.
Member Balance Enquiry, you will be able to log in to this website to get up-to-date share and loan balances.
At this year's AGM our members agreed a 2% dividend on ALL instant savings accounts
Mae undebau credyd wedi manteisio ar eu cryfder unedig drwy ddarparu yswiriant diogelu benthyciad a buddion yswiriant bywyd ar gynilion i’w haelodau drwy Cuna Mutual Insurance Group, sy’n eiddo i’r symudiad undeb credyd.
Mae Caledfryn yn darparu’r yswiriant hwn heb unrhyw gost ychwanegol i’w aelodau.
Pan fyddwch yn cynilo gyda’n Hundeb Credyd, mae gan eich cyfranddaliadau’r budd o ddarparu yswiriant bywyd rhad ac am ddim. Mae’r lefel yn amodol ar oedran (gweler isod) ac yn gymesur â’r swm a gynilwyd. Dim ond os bydd aelod yn marw y mae’r buddion yn daladwy.
Mae ein Hundeb Credyd yn talu’r premiwm am y diogeliad hwn allan o’n helw felly nid oes unrhyw gost unigol i chi. Dyma gymhelliad ychwanegol i gynilo’n rheolaidd gan wybod bod eich cynilon yn rhoi’r budd pellach hwn.
Os ydych yn cynilo gyda’n Hundeb Credyd ni a’ch bod o dan 70 oed, rydych chi’n gymwys am yr yswiriant bywyd (cynilion) hwn.
Mae pob £1 a gynilwch gyda’n hundeb credyd yn rhoi budd o:
Mae swm y budd yswiriant yn dibynnu ar eich oedran pan fyddwch yn cynilo eich arian. Er enghraifft, os oes gennych gynilion o £100 cyn cyrraedd eich 65 oed ac nid ydych yn tynnu dim allan, pan fyddwch yn cyrraedd eich 66 oed, byddwch chi’n dal i fwynhau’r 100%. Os byddwch yn tynnu rhywfaint o’r cynilion hynny allan pan fyddwch yn 66 oed, byddai gweddill eich cynilion gwreiddiol yn dal i gael y 100% ond byddai unrhyw gynilion yn y dyfodol yn mwynhau 25% o fudd nes ichi gyrraedd eich 70 oed.
Mewn geiriau eraill, ar yr amod eich bod o dan 70 oed ac yn parhau i gynilo gyda’ch undeb credyd, byddwch chi’n cael yswiriant bywyd yn rhad ac am ddim.
Eto mae yswiriant bywyd rhad ac am ddim ar bob benthyciad ar gael i’n haelodau nes iddynt gyrraedd eu 70 oed. Os bydd aelod yn marw, caiff y ddyled ei chanslo a’i had-dalu i’r undeb credyd gan yr yswiriant.
Daw’r yswiriant hwn i ben pan fydd yr aelod yn cyrraedd 70.
Yswiriant Damwain/Salwch ac Yswiriant Damwain/Salwch a Diweithdra
Wrth gymryd eich benthyciad, gallwn gynnig yswiriant i chi i ddiogelu eich taliadau rhag ofn y byddwch yn methu gweithio oherwydd damwain neu salwch (DS). Nid yw’r yswiriant hwn yn rhad ac am ddim i chi, byddai’n rhaid ichi dalu’r premiymau.
Am gost ychwanegol, gallech hefyd ychwanegu yswiriant yn erbyn diweithdra (DSD)
Daw’r ddau fath o yswiriant hwn ag amodau a gallwn egluro’r rhain a’r costau dan sylw pan fyddwch yn cymryd eich benthyciad. Ar y cyfan, mae’r cynhyrchion hyn wedi cael sylw negyddol yn y wasg yn y blynyddoedd diwethaf ond rydym wedi canfod eu bod yn ddibynadwy: yn ein profiad ni, nid yw’r yswirwyr wedi edrych am unrhyw ffyrdd posibl o osgoi talu allan fel mae rhai yswirwyr eraill, mae’n debyg.
Cyfyngiad Cyflwr Cynfodol (CCC)
Mae contractau’r yswiriant i ddiogelu cynilion a benthyciad yn cynnwys cyfyngiad cyflwr cynfodol (CCC) o 6 mis fel rheol. Y CCC 6 mis sy’n llywodraethu pob cyfranddaliad (cynilion) newydd sy’n cael ei adneuo gan aelod neu bob cytundeb benthyciad newydd y mae aelod yn ymrwymo iddo.
Ni fydd CUNA Mutual Group yn talu budd ar weddill cyfranddaliad sydd heb ei dalu na chytundeb benthyciad aelod os bydd marwolaeth yn digwydd o ganlyniad i salwch neu anaf cynfodol y cafwyd cyngor, ymgynghoriad neu driniaeth feddygol ar ei gyfer ymhen 6 mis cyn adneuo’r cyfranddaliad neu gymryd y cytundeb benthyciad.
Mae’r CCC hwn yn para 6 mis o ddyddiad dechrau pob cyfranddaliad sy’n cael ei adneuo neu gytundeb benthyciad. Os bydd aelod yn marw 6 mis neu fwy ar ôl dyddiad adneuo’r cyfranddaliad neu ddechrau’r cytundeb benthyciad, ni fydd y rheol hon yn atal taliadau.
Cynhyrchion yswiriant eraill
Mae CUNA Mutual Group wedi cyd-drafod cynhyrchion yswiriant eraill i aelodau undeb credyd a gallwn ddarparu manylion cyswllt er mwyn cael dyfynbrisiau ar gyfer y rhain.
Fel y gwyddys, gall Gwasanaethau Aelodau ddarparu yswiriant modur, gwyliau, iechyd a chartref a byddem yn eich annog i gael dyfynbris i weld sut mae’n cymharu â phrisiau eraill a gewch. Os byddwch yn cymryd un o’r rhain, mae Caledfryn yn cael comisiwn.