Croeso – Beth yw Undebau Credyd?

Lesley Jones (standing left) attending official opening of new offices at 19 Bridge Street, Denbigh, 10th May 2002.Cwmnïau cydweithredol ariannol yw undebau credyd sydd ym meddiant a than reolaeth yr aelodau sy’n eu defnyddio. Maent yn ffordd gyfleus o gynilo arian a chael benthyciadau ar gost isel.

Mae aelodaeth undebau credyd yn seiliedig ar ‘fod cyffredin’, lle mae pobl yn byw neu’n gweithio. Mae undebau credyd  yn annog datblygu cymdeithasol ac economaidd ar raddfa leol. Maent yn cadw cyfoeth mewn cymunedau drwy annog pobl leol i gynilo. Gall pobl ddatblygu eu sgiliau hefyd drwy wirfoddoli mewn undeb credyd.

Mae croeso i deuluoedd sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Ddinbych i’r de o’r A55 ymuno â’n Hundeb Credyd.

Mae aelodau undeb credyd yn cynilo arian mewn cronfa gyffredin. Gellir defnyddio’r gronfa hon yn ei thro i roi benthyciadau ar gost isel i’r aelodau. Mae pob llog ar ad-daliadau benthyciadau yn cael ei ailfuddsoddi yn yr undeb credyd ac nid oes dim yn gadael y gymuned. Yn ôl y gyfraith, y llog uchaf y gall undeb credyd ei godi yw 2% y mis (26.8% APR).

Gall undebau credyd dalu difidend blynyddol ar gynilion eu haelodau.

Cymdeithasau cydfuddiannol yw undebau credyd, wedi’u cofrestru drwy’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ac fe’u rheolir gan y gyfraith sef Deddf Undebau Credyd 1979.

Beth yw ein pwrpas?

Rydym yn bod am ein bod yn bobl leol fel chi sydd â diddordeb mewn gwarchod a gwella ein cymuned. Rydym yn darparu gwasanaeth y mae croeso mawr iddo yn uniongyrchol i’n haelodau ac nid oes gennym gyfranddalwyr allanol. Mae Undeb Credyd Caledfryn yn perthyn i Gymdeithas Undebau Credyd Prydain (ABCUL), y brif gymdeithas fasnach i undebau credyd ym Mhrydain.

I wybod rhagor am ein Hundeb Credyd neu am undebau credyd yng Nghymru, defnyddiwch y cysylltiadau ar y chwith.

I wybod rhagor, ffoniwch 01745 817444 neu anfonwch e-bost at Louise Roberts drwy glicio ar y cysylltiad hwn.

Hawlfraint © 2002 Undeb Credyd Caledfryn Cyfyngedig. Cedwir Pob Hawl

Contact Us
Back to Home Page
Click to view in English