

Website revamp in progress, please use the contact us link above to let us know your thoughts on website content and general site design.
Member Balance Enquiry, you will be able to log in to this website to get up-to-date share and loan balances.
At Caledfryn, a loan of £100 would cost just £12.69 in interest, over 52 weeks!
Loan decisions are made by the loans panel, appointed by the directors. .
Here you will find the top twenty frequently asked questions about credit unions.
‘Banc’ sy’n eiddo i’r gymuned ydyw. Gallwch wneud cynilion rheolaidd i mewn i’ch cyfrif ni waeth pa mor fach A chymryd benthyciadau am gost isel iawn pe byddai byth angen ichi.
Mae aelodau sy’n cytuno i gynilo gyda’i gilydd yn creu cronfa gyffredin y gall ei haelodau fenthyg ohoni ar gyfraddau cystadleuol. Nid yw’n gwneud elw, gan fod unrhyw beth dros ben yn cael ei ddefnyddio er budd ei aelodau.
Mae undeb credyd yn eiddo i’w aelodau ac yn cael ei reoli ganddynt. Mae’n fenter gymunedol, sy’n cael ei rhedeg gan bobl leol er budd pobl leol.
Mae pawb sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Ddinbych, i’r de o’r A55, ac unrhyw aelod o’u teulu sy’n byw gyda nhw, yn gallu ymuno drwy dalu ffi ymaelodi o £2 ac agor cyfrif Cyfranddaliad Safonol. Mae adran Cynilwyr Iau ar gyfer y rheini o dan 16 oed.
YDY! Mae’r undeb credyd wedi’i yswirio yn erbyn lladrad a thwyll ac mae’n cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Mae canllawiau cyfreithiol caeth am sut y caiff ei redeg, gydag archwiliadau a rheolaethau rheolaidd.
Yn ogystal, ers 2 Gorffennaf 2002, mae pob undeb credyd yn y wlad hon yn aelod o’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol sydd hefyd yn cynnwys pob banc a chymdeithas adeiladu. Mae hyn yn golygu y byddech yn cael eich digolledu’n llawn pe byddai’r undeb credyd yn mynd allan o fusnes. Dyma rywbeth nad ydym yn ei ragweld gyda’n hundeb credyd ni ond mae’n gefnogaeth aruthrol i’n haelodau. Mae £50,000 cyntaf eich cynilion yn gwbl ddiogel.
Mae gwybodaeth bellach ar gael o’n Hundeb Credyd neu’n uniongyrchol o’r:
Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid: 020 7892 7300
E-bost: enquiries@fscs.org.uk
Ysgrifennwch at y: Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol
Financial Services Compensation Scheme
7th floor, Lloyds Chambers
Portsoken Street
London E1 8BN
Ffacs: 020 7892 7301
Gwefan: www.fscs.org.uk
Mae cynilion yn gwbl hyblyg felly nid oes yn rhaid ichi gynilo’r un swm bob tro, ond rydym yn eich annog i gynilo’n rheolaidd, ni waeth pa mor fach yw’r swm. Gellir gwneud cynilion mewn mannau casglu, neu yn ein swyddfa gofrestredig, neu drwy archeb sefydlog neu ddidyniadau o’r gyflogres a drefnir gyda’ch cyflogwr. Mae’r undeb credyd yma i’ch helpu i gynilo’n rheolaidd er mwyn cronni swm gweddol.
Erbyn hyn, mae llawer o aelodau’n cael rhywfaint neu’r cyfan o’u budd-daliadau wedi’u talu’n syth i’w cyfrif undeb credyd. Mae hyn yn ei gwneud yn haws rheoli cynilion neu ad-daliadau benthyciad.
Gellir tynnu eich arian allan unrhyw bryd y byddwn ar agor drwy alw i mewn i’r swyddfa. Ni allwch dynnu mwy na £200 oni fyddwch wedi trefnu gwneud hynny ymlaen llaw oherwydd rydym yn osgoi cadw symiau mawr o arian yn ein coffr, ond drwy siec gallwch gael y cyfan ohono.
Mae’n rhaid ichi adael £5 yn eich cyfrif i’w gadw ar agor.
Gellir hefyd postio sieciau i chi ar ôl cais ysgrifenedig am dynnu’r arian allan.
Fodd bynnag, mae’n well gan lawer o aelodau beidio â chyffwrdd â’u cynilion a’u gadael i dyfu, a chael benthyciad yn hytrach. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn parhau’n gymwys am fuddrannau yn y dyfodol ac maent hefyd yn cadw eu buddion yswiriant bywyd yn gyflawn.
Ni ellir tynnu arian allan o’r cyfrif cynilo Nadolig hyd fis Tachwedd oni chaiff y cyfrif ei gau.
Mae pob aelod yn berchen ar yr undeb credyd ac yn rhannu yn ei lwyddiant. Yn hytrach na thalu llog, mae buddran yn cael ei rhoi ar ddiwedd pob blwyddyn.
Mwyaf y cynilion sydd gennych, mwyaf y fuddran a enillwch. Ar hyn o bryd, mae’r gyfraith yn caniatáu i undebau credyd roi hyd at 8% o fuddran ar eich cynilion. Yr aelodau sy’n penderfynu’r fuddran yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol.
Nac oes, gallwch ddefnyddio’r undeb credyd i gynilo yn unig.
Caiff unrhyw un sy’n aelod ac sy’n 18 neu hyn wneud cais am fenthyciad. Mae’r undeb credyd yno i’ch annog i gynilo. Os gallwch ddangos eich bod yn gallu cynilo’n rheolaidd mae’n dangos y gallwch ad-dalu benthyciad yn rheolaidd.
Mae benthyciadau’n cael eu rhoi i aelodau ar sail eu gallu i ad-dalu ac yn unol â pholisi benthyciadau’r undeb credyd. Ystyrir y record cynilo gan ei fod yn dangos gallu i reoli arian.
Cymharwch ein cyfraddau ag unrhyw le arall! Nid yw’r gyfraith yn ein caniatau i godi mwy na 2% y mis (26.8% o gyfradd ganrannol flynyddol) AC nid oes unrhyw gostau cudd na thaliadau ychwanegol.
O bryd i’w gilydd cynigir cyfraddau is: holwch am fanylion.
Felly os byddwch, er enghraifft, yn benthyg £100 dros 12 mis rydych chi’n talu £112.69 yn ôl. Ac wrth reswm mae’r holl arian hwnnw’n mynd yn ôl i mewn i’ch undeb credyd.
Chi sy’n penderfynu faint y gallwch fforddio ei dalu ac am ba hyd. Mae’n rhaid talu benthyciadau cyntaf yn ôl dros 12 mis ar y mwyaf ond gellir ad-dalu benthyciadau dilynol dros dair blynedd, felly gallai eich benthyciad fod am bythefnos neu am flwyddyn neu fwy.
Nac oes, dim o gwbl. Mae enillion, fodd bynnag, oherwydd dim ond yn ddyddiol y mae llog yn cael ei godi ar y swm sy’n weddill i’w dalu.
Caiff undebau credyd eu rhedeg gan wirfoddolwyr sydd hefyd yn aelodau. Os hoffech gymryd rhan mae bob amser rhywbeth diddorol i’w wneud i helpu. Mae hyfforddiant ar gael i bob gwirfoddolwr. Mwyaf cymhleth y mae’r gwaith yn yr undeb credyd mwyaf yr hyfforddiant sydd ar gael.
Fel gwirfoddolwr gallwch hefyd gael cymwysterau undeb credyd a fydd yn eich helpu gyda’ch rhagolygon swydd.
Ydy, yn gyfan gwbl. Mae pob swyddog a chasglwr yn glynu wrth reolau cyfrinachedd caeth ac mae’n rhaid iddo lofnodi cytundeb cyfrinachedd.
Caiff cynilion a benthyciadau aelodau eu diogelu gan yswiriant RHAD AC AM DDIM (gan ddibynnu ar oedran). Er enghraifft, os bydd gennych fenthyciad heb ei dalu a’ch bod yn marw, nid yw eich teulu’n talu’r ddyled. Mae’r yswiriant hwn yn llawer drutach gyda darparwyr ariannol eraill. Er enghraifft, gall banciau godi hyd at 20% yn fwy am yswiriant ar eu benthyciadau. Gwyliwch rhag y costau cudd hynny. Gyda’r undeb credyd rydych chi’n sicr o wybod nad oes unrhyw gostau cudd.
Mae cynhyrchion yswiriant eraill ar gael hefyd i aelodau am gyfraddau ffafriol. Holwch am fanylion.
Mae’n hawdd. Ewch i’r swyddfa neu un o’n mannau casglu yn ystod oriau agor. Fel arall, ffoniwch am ffurflen gais neu gallwch lwytho un i lawr o’r safle hwn. Mae’n costio £2 i ymuno; gallwch wedyn agor cyfrif cynilo gyda chyn lleied â phunt, a dechrau mwynhau’r holl fanteision o fod yn aelod.
Ein nod yw cael cyfran uchel o gynilion aelodau allan ar fenthyg i aelodau eraill. Mae’n rhaid inni gadw arian yn ein cyfrif cyfredol, wrth gwrs, ac mae hwn yn cael ei “sgubo” yn rheolaidd i gyfrif cadw. Os byddwn yn ei roi ar adnau llog uwch mae’n rhaid inni sicrhau y gallwn gael gafael arno’n hawdd a sicrhau’r cyfraddau gorau sydd ar gael inni, ond nid ydym yn cymryd risgiau gydag arian aelodau. Ein Bwrdd Cyfarwyddwyr sy’n gwneud y penderfyniadau ar hyn.