Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin am undebau credyd!

BETH YW UNDEB CREDYD?

Math o ‘fanc’ cydweithredol. Fe gewch chi gynilo arian yn rheolaidd, ni waeth faint, yn eich cyfrif A chael benthyciadau ar gost isel iawn os bydd angen i chi wneud!

Mae aelodau sy’n cytuno i gynilo arian gyda’i gilydd yn creu cronfa gyffredin y gall ei aelodau fenthyg arian ohoni ar gyfraddau cystadleuol. Mae’n sefydliad heb fod am elw, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio er budd ei aelodau.

PWY SY’N EI REDEG?

ABCUL Director for Wales, Lesley Bird (standing left) attending official opening of new offices at 19 Bridge Street, Denbigh, 10th May 2002.Mae undeb credyd yn eiddo i’w aelodau ac yn cael ei redeg ganddynt. Mae’n fenter gymunedol heb fod am elw, a redir gan bobl leol er budd pobl leol.

PWY SY’N CAEL YMUNO?

Pawb sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Ddinbych, i’r de o’r A55, ac unrhyw aelod o’u teulu sy’n byw gyda nhw. Gallwch ymaelodi drwy dalu tâl aelodaeth o £1 ac agor cyfrif Cyfranddaliadau Cyffredin. Mae Adran Gynilion Iau ar gyfer rhai dan 16 oed.

YDY FY ARIAN YN DDIOGEL?

YDY! Mae’r undeb credyd wedi’i yswirio rhag lladrad a thwyll ac yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Mae canllawiau cyfreithiol llym ar y ffordd mae’n cael ei redeg, gydag archwiliadau rheolaidd a rheolaethau.

Yn ogystal, o 2 Gorffennaf 2002, bydd undebau credyd yn y wlad hon yn cael eu cefnogi gan gynllun iawndal cenedlaethol drwy’r FSA sy’n gyfrifol ar hyn o bryd am fanciau a chymdeithasau adeiladu – sy’n golygu y cewch iawndal os bydd eich undeb credyd yn mynd i’r wal. Dyma rywbeth sydd heb fod yn rhan o gynlluniau ein hundeb credyd ni ond mae’n cynnig sicrwydd rhagorol i’n haelodau. Mae’r £2000 cyntaf yn eich cyfrif wedi’u hyswirio’n llawn.

Mae gwybodaeth bellach ar gael gan ein Hundeb Credyd neu’n uniongyrchol oddi wrth:

Ffôn: 0845 080 1800 - Gwefan: www.financial-ombudsman.org.uk

SUT MAE CYNILO?

Mae cynilion yn gwbl hyblyg, felly nid oes angen i chi gynilo’r un swm bob tro, ond rydym yn gofyn i chi gynilo’n rheolaidd, ni waeth faint. Gellir cynilo mewn mannau casglu, a gafodd eu sefydlu drwy’r sir, neu yn ein swyddfa gofrestredig, neu drwy archeb sefydlog neu drwy ddidyniadau o’ch cyflog drwy eich cyflogwr. Pwrpas yr undeb credyd yw eich helpu i gynilo’n rheolaidd fel bod gennych swm sylweddol.

YDW I’N CAEL TYNNU FY ARIAN?

Ydych, ond mae’n bosibl y bydd angen 7 diwrnod o rybudd arnom. Mae’n well gan y rhan fwyaf o’n haelodau adael llonydd i'w cynilion dyfu, gan fenthyca arian yn lle tynnu. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn dal yn gymwys i dderbyn benthyciadau a difidendau yn y dyfodol. Mae’n diogelu eu hyswiriant bywyd hefyd.

A OES LLOG AR FY NGHYNILION?

Mae’r undeb credyd yn eiddo i'r aelodau ac mae pob un yn elwa o’i lwyddiant. Yn lle talu llog byddwn yn rhoi difidend i chi ar ddiwedd y flwyddyn. Po fwyaf o gynilion sydd gennych, mwyaf y difidend a gewch. Ar hyn o bryd mae’r gyfraith yn caniatáu i undebau credyd roi difidend o hyd at 8% ar eich cynilion.

OES RHAID IMI GAEL BENTHYCIAD?

Nac oes, gallwch ddefnyddio’r undeb credyd i gynilo’n unig.

PWY SY’N CAEL GWNEUD CAIS AM FENTHYCIADAU?

Gall unrhyw un sy’n aelod, sy’n 18 oed neu drosodd ac sy’n cynilo’n rheolaidd gyda’r undeb credyd ers o leiaf 3 mis, wneud cais am fenthyciad. Gwaith yr undeb credyd yw meithrin yr arfer o gynilo. Os gallwch ddangos y gallwch gynilo’n rheolaidd mae’n dangos y gallwch ad‑dalu benthyciad yn rheolaidd.

FAINT O FENTHYCIAD ALLAF EI GAEL?

Rhoddir benthyciadau i aelodau gan ddibynnu ar eu cynilion, eu gallu i wneud ad-daliadau ac yn unol â pholisi benthyciadau’r undeb credyd. Gall y benthyciad cyntaf fod hyd at ddwywaith eich cynilion i’w ad‑dalu dros gyfnod o flwyddyn. Gallai benthyciadau wedi hynny fod yn fwy os oes gennych hanes da o ad-dalu.

FAINT YW COST BENTHYCIADAU?

Dylech gymharu ein cyfraddau gyda phawb arall! Nid yw’r gyfraith yn caniatáu i ni godi rhagor nag 1% y mis (12.68% APR), AC nid oes costau cudd na ffioedd ychwanegol.

Er enghraifft, os ydych yn benthyg £100 dros 12 mis byddwch yn ad-dalu £106.21 (cymharwch hynny gyda benthyciad gan fanc!). Ac wrth gwrs mae’r holl arian yn mynd yn ôl i’r undeb credyd.

GAF FI DDEWIS CYFNOD YR AD-DALIADAU?

Mater i chi yw penderfynu fant y gallwch chi ei ad-dalu ac am ba gyfnod. Rhaid ad-dalu benthyciadau cyntaf dros gyfnod o 12 mis ar y mwyaf ond gall benthyciadau wedi hynny gael eu had-dalu dros gyfnod o dair blynedd, felly gallech gael benthyciad am bythefnos, am flwyddyn neu am gyfnod mwy.

OES COSB OS BYDDAF AM AD-DALU FY MENTHYCIAD YN GYNNAR?

Nac oes, dim o gwbl.

PWY SY’N GWEITHIO YN YR UNDEB CREDYD?

Mae undebau credyd yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr o blith yr aelodau. Os ydych am gyfrannu mae rhywbeth diddorol i’w wneud bob amser. Mae hyfforddiant ar gael i’n holl wirfoddolwyr. Po fwyaf cymhleth y gwaith yn yr undeb credyd mwyaf o hyfforddiant sydd ar gael. Os ydych yn gwirfoddoli mae cyfle hefyd i chi ennill cymwysterau gan yr undeb credyd a fydd yn eich helpu wrth chwilio am swydd arall.

YDY FY MUSNES YN BREIFAT?

Yn gyfan gwbl. Mae’r holl swyddogion a chasglwyr yn cadw at reolau llym o ran cyfrinachedd.

BETH AM YSWIRIANT?

Mae yswiriant AM DIM ar gynilion a benthyciadau aelodau (gan ddibynnu ar eich oedran). Er enghraifft, os ydych yn marw cyn ad-dalu benthyciad, ni fydd eich teulu’n talu’r ddyled. Mae’r yswiriant hwn yn llawer drutach gyda benthycwyr eraill. Gall banciau, er enghraifft, godi hyd at 20% yn ychwanegol am yswiriant ar eu benthyciadau. Gofalwch am y costau cudd. Gyda’r undeb credyd gallwch fod yn dawel eich meddwl nad oes costau cudd i'w talu.

SUT MAE YMAELODI?

Mae’n hawdd; ewch i’r swyddfa neu i un o’r mannau casglu yn ystod oriau agor. Mae’n costio punt i ymaelodi a gallwch agor cyfrif cynilo gyda chyn lleied â phunt, a dechrau manteisio ar holl fuddiannau aelodaeth.

BLE MAE’R UNDEB CREDYD YN BUDDSODDI CYNILION EI AELODAU?

Bydd cynilion aelodau’n cael eu rhoi ar adnau mewn banciau neu gymdeithasau adeiladu. Nid yw ein Hundeb Credyd ond yn buddsoddi mewn buddsoddwyr moesegol.

Hawlfraint © 2002 Undeb Credyd Caledfryn Cyfyngedig. Cedwir Pob Hawl

Contact Us
Back to Home Page
Click to view in English