

Website revamp in progress, please use the contact us link above to let us know your thoughts on website content and general site design.
Member Balance Enquiry, you will be able to log in to this website to get up-to-date share and loan balances.
Log in and get a print out of your share and or loan balance, including the last 5 transactions.
Ein nod yw cynnig gwasanaethau o ansawdd uchel a gwerth am arian i’n haelodau. Dim ond gyda’ch cymorth chi y gallwn wneud hyn. Os ydym wedi eich siomi, cofiwch roi gwybod inni!
Byddwn yn darparu copi o’n gweithdrefn gwyno fewnol ichi os byddwch yn gofyn amdani
Anelwn at ymdrin â’ch cwyn mor drwyadl ac mor gyflym â phosibl. Os nad oes modd datrys eich cwyn yn syth, byddwn yn dweud wrthych pryd y gallwch ddisgwyl ymateb ac yn rhoi gwybod ichi am gynnydd.
Anelwn at gydnabod eich cwyn ymhen saith niwrnod a’i datrys ymhen wyth wythnos ar y mwyaf.
Mae ein Hundeb Credyd yn mynnu ei hawl i wneud penderfyniadau busnes priodol am unrhyw ran o’n gweithrediadau gan gynnwys derbyn aelodau newydd i aelodaeth a chymhwyster unigol am gredyd fel y cyfeirir ato yn ein polisïau aelodaeth a benthyciad.
Eich camau cyntaf
Mae’r ffordd orau o wneud cwyn yn dibynnu ar sut cododd y sefyllfa. Os yw un o swyddogion ein Hundeb Credyd wedi ysgrifennu atoch neu’n ymdrin â chi eisoes, dylech gysylltu â’r person hwnnw, naill ai dros y ffôn, yn ysgrifenedig neu drwy alw i mewn i swyddfa’r Undeb Credyd yn Stryd y Bont, Dinbych.
Cyngor am wneud cwyn ysgrifenedig
Dylech gynnwys eich enw llawn, cyfeiriad, rhif ffôn ac unrhyw rif cyfeirnod fel eich rhif aelodaeth, ar frig y llythyr. Cofiwch nodi’r dyddiad ar frig y llythyr – bydd hyn yn eich helpu i gadw cofnod o bryd y gwnaethoch eich cwyn a’r amser a aeth heibio cyn ichi gael ymateb.
Os ydych yn anfodlon o hyd
Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i ddatrys eich cwyn yn gyflym ac yn deg. Gan amlaf, gellir cyflawni hyn i foddhad pawb.
Os ydych yn anfodlon o hyd, gallwch ofyn am gael eich cwyn wedi’i chyfeirio at y Swyddog Cwynion, Mrs Ann Francis, yn unol â gweithdrefn gwyno fewnol ein Hundeb Credyd.
Mae gan y Swyddog Cwynion gyfrifoldebau arbennig am gwynion yn yr Undeb Credyd. Bydd yn cynnal adolygiad annibynnol ar eich rhan ac yn rhoi ymateb ysgrifenedig i chi. Os yw’r gwyn amdani hi, bydd cyfarwyddwr dynodedig yn ymdrin â’r gwyn.
Os yw eich cwyn wedi bod trwy weithdrefn gwyno fewnol ein Hundeb Credyd a’ch bod yn anfodlon o hyd ar y llythyr ymateb terfynol, gallwch fynd â’ch cwyn at y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.
Sefydlwyd y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol – y cyfeirir ato weithio fel FOS – i ddarparu gwasanaeth annibynnol a rhad ac am ddim i ddefnyddwyr i ddatrys anghydfodau â darparwyr ariannol.
Os oes gennych gwyn na allwch ei datrys gyda ni, efallai y gallwch fynd â’r gwyn at y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol, ond mae’n rhaid eich bod wedi ceisio ei datrys drwy ein gweithdrefn gwyno fewnol yn gyntaf.
Gallwn roi gwybodaeth bellach i chi neu gallwch ei chael yn uniongyrchol o’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol:
Financial Ombudsman Service
South Quay Plaza
183 Marsh Wall
London
E14 9SR
Ffôn: 0845 080 1800
Gwefan: www.financial-ombudsman.org.
Cofiwch siarad â’r Undeb Credyd os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaethau – ond cofiwch roi gwybod inni os ydych yn fodlon ar y gwasanaethau a gewch hefyd!