Ydych chi am gwyno?

Ydym ni wedi eich siomi?

Ein nod yw cynnig gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian. Ni allwn wneud hynny heb eich help. Os ydym ni wedi eich siomi, rhowch wybod!

Ein hymrwymiad i chi.

Mae ein Hundeb Credyd yn mynnu’r hawl i wneud penderfyniadau priodol am unrhyw agwedd ar ein busnes gan gynnwys derbyn aelodau newydd a chymhwysedd unigolion i dderbyn credyd yn unol â’n polisïau aelodaeth a benthyca.

Pwy sy’n cael cwyno?

Eich camau cyntaf

Mae’r ffordd orau o gwyno yn dibynnu ar y sefyllfa. Os yw un o swyddogion ein Hundeb Credyd wedi ysgrifennu atoch neu’n ymdrin â chi yn barod, dylech gysylltu â hwnnw neu honno, naill ar dros y ffôn, drwy lythyr neu drwy alw yn swyddfa’r Undebau Credyd yn Lon Sowter, Dinbych. Neu gallwch gyfeirio eich cwyn at y Swyddog Cwynion, Mr Alan Williams.

Cyngor ar wneud cwyn ysgrifenedig

Os ydych yn dal yn anfodlon

Fe wnawn ni bopeth a allwn i ddatrys eich cwyn yn gyflym ac yn deg. Fel arfer gellir gwneud hyn mewn ffordd sy’n plesio pawb.

Os ydych yn dal yn anfodlon ofynnwch i’ch cwyn gael ei drosglwyddo i’r Swyddog Cwynion, Mr Alan Williams, yn unol â threfn gwynion fewnol ein Hundeb Credyd.

Mae gan y Swyddog Cwynion gyfrifoldebau arbennig am gwynion o fewn yr Undeb Credyd. Bydd yn cynnal arolwg annibynnol ar eich rhan ac yn anfon ateb ysgrifenedig atoch.

Os yw eich cwyn wedi cael ei drin drwy drefn gwynion fewnol ein Hundeb Credyd ac os ydych yn dal yn anfodlon ar y llythyr terfynol oddi wrth ein Hundeb Credyd, o 2 Gorffennaf 2002 ymlaen gallwch gyflwyno eich cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol.

Beth yw’r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol?

Sefydlwyd y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol – y cyfeirir ato weithiau fel yr FOS, i gynnig gwasanaeth di-dâl ac annibynnol i ddatrys anghydfod gyda darparwyr gwasanaethau ariannol.

Os oes cwyn gennych na allwch ei ddatrys gyda’n Hundeb Credyd, o 2 Gorffennaf 2002 ymlaen gallwch gyflwyno eich cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol.

Cyn i chi gyflwyno eich cwyn i’r Ombwdsman, rhaid i chi fod wedi ceisio ei ddatrys drwy drefn gwynion fewnol ein Hundeb Credyd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan ein Hundeb Credyd neu’n uniongyrchol oddi wrth:

Ffôn: 0845 080 1800 - Gwefan: www.financial-ombudsman.org.uk

Cofiwch sôn wrth ein Hundeb Credyd os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaethau – ond rhowch wybod os ydych yn fodlon ar ein gwasanaethau hefyd!

Hawlfraint © 2002 Undeb Credyd Caledfryn Cyfyngedig. Cedwir Pob Hawl

Contact Us
Back to Home Page
Click to view in English