Sut mae benthyg arian gan undeb credyd?
Unig bwrpas undebau credyd yw cynnig gwasanaeth i’w haelodau. Mae hyn yn golygu y gall aelodau gael benthyciadau ar gyfradd resymol. Dim ond aelodau sy’n cael gwneud cais am fenthyciadau a rhaid iddynt ddangos eu bod yn cynilo arian yn rheolaidd gyda’r undeb credyd ers tri mis o leiaf, fel arfer. Anogir aelodau i barhau i gynilo hyd yn oed wrth ad-dalu benthyciad. Mae hyn nid yn unig yn help i ychwanegu at gynilion yr aelod ond yn cyfrannu hefyd at gronfa’r undebau credyd, gan ei alluogi i roi benthyg arian i ragor o aelodau yn y gymuned.
Buddiannau benthyca arian gan undeb credyd:
- Nid oes isafswm i chi ei fenthyca ac rydym yn teilwra ad-daliadau i ateb anghenion yr unigolyn.
- Nid oes taliadau ychwanegol hyd yn oed os byddwch yn ad-dalu eich benthyciad yn gynnar.
- Ni chodi ffi am drefnu’r benthyciad.
- Mae yswiriant am ddim ar bob benthyciad. Os na fyddwch yn fyw am hyd y benthyciad fe gaiff eich dyled ei chlirio’n syth, gan ddibynnu ar rai amodau – cliciwch ar “yswiriant” ar y chwith am ragor o wybodaeth.
- Asesir pob benthyciad yn unigol.
Yn ôl y gyfraith y llog uchaf yw 1% y mis wrth i’r gweddill ostwng. Mae hyn yn gyfwerth â chyfradd log flynyddol o 26.8%
“Dyna am rwy’n ei hoffi. Maen nhw’n eich annog chi i gynilo arian wrth ad-dalu eich benthyciad. Dydych chi ddim yn benthyca mwy a mwy a mynd i fwy o ddyled, mae’n rhaid i chi gynilo hefyd!” (Sylw yn ystod arolwg marchnad a gynhaliwyd yn ystod Mehefin – Medi 2001 gan Beaufort Research).
Cost benthyca
Dyma enghraifft o fenthyca arian gan ein Hundeb Credyd dros gyfnod o flwyddyn:
| Maint y Benthyciad | Ad-daliadau wythnosol | Yswiriant - bywyd | Cost y Benthyciad | Am ddim |
| £100 | £2.17 | di-dâl | £112.69 | £12.69 |
| £300 | £6.51 | di-dâl | £338.08 | £38.08 |
| £500 | £10.84 | di-dâl | £563.53 | £63.53 |
| £1,000 | £21.68 | di-dâl | £1,127.06 |
£127.06 |
| £2,000 | £43.33 | di-dâl | £2,254.18 | £254.18 |
Beth am gymharu hyn â chyfraddau benthycwyr eraill – rydym yn ddiguro o ran cyfraddau a gwasanaeth personol.
Faint gaf i ei fenthyg?
Yn fras, dyma syniad am eich benthyciad cyntaf a’r ail fenthyciad neu wedi hynny £500
Mae benthyciadau ychwanegol ar gael ond bydd yn rhaid trafod hyn gyda swyddog yr undeb credyd ymlaen llaw.
Y
benthyciad mwyaf a ganiateir ar hyn o bryd yw £5000 ar ben eich cynilion.
Mae cyfradd log o 1% sy’n gostwng bob dydd heb gosb am ad-daliad cynnar a
dim ffioedd trefnu yn golygu gwasanaeth rhagorol i aelodau. Pe caech chi fenthyciad
gennym heddiw ac yn ei ad-dalu’n llawn yfory, y cyfan y byddech yn ei dalu
fydd llog am un diwrnod.
Nid oes rhaid cael benthyg arian i ymaelodi ag Undeb Credyd Caledfryn.
Sut i wneud cais am fenthyciad
Cofiwch, fel aelod rhaid i chi fod wedi cynilo’n rheolaidd ers 3 mis o leiaf cyn gwneud cais am eich benthyciad cyntaf.
Cam 1
Gofynnwch am ffurflen gais gan ein swyddfa Undebau Credyd neu o unrhyw fan casglu. Neu gallwch is lwytho ffurflen o’r safle hwn.
Cam 2
Llenwch y ffurflen gais hyd y gallwch chi ac ewch â hi ynghyd â phrawf incwm i’r swyddfa neu i unrhyw fan casglu i’w thrafod gyda swyddog undeb credyd. Byddwn yn ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych.
Cam 3
Bydd eich cais yn cael ei ystyried gan aelodau’r Pwyllgor Credyd a fydd yn gwneud penderfyniad. Mae pob cais yn cael ei ystyried yn unigol ac os ydym yn gwrthod cais byddwn yn trafod y rhesymau’n gyfrinachol ac yn bersonol gyda’r ymgeisydd.
Cam 4
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, cewch eich hysbysu a gallwch alw yn y swyddfa neu fan casglu i godi eich benthyciad. Rhoddir copi o’r cytundeb benthyca i chi a bydd disgwyl i chi wneud y taliadau rheolaidd y cytunwyd arnynt. Yn ogystal, bydd disgwyl i chi barhau i gynilo wrth ad-dalu eich benthyciad. Fel arfer caiff eich cais ei brosesu o fewn wythnos fan bellaf.
Hawlfraint © 2002 Undeb Credyd Caledfryn Cyfyngedig. Cedwir Pob Hawl
