

Website revamp in progress, please use the contact us link above to let us know your thoughts on website content and general site design.
Member Balance Enquiry, you will be able to log in to this website to get up-to-date share and loan balances.
YES! Deposits up to £50,000 are guaranteed by the Financial Services Compensation Scheme
Mae undebau credyd yn darparu ffordd gyfleus a diogel o gynilo a gall aelodau gynilo cyn lleied neu gymaint ag y dewisant. Gall cynilion gronni’n gyflym ar ôl sefydlu arfer cynilo ac anogir aelodau i barhau i gynilo pan fyddant yn ad-dalu benthyciad hefyd.
Mwyaf y cynilion sydd gan yr undeb credyd, mwyaf y cyllid sydd ar gael ar gyfer benthyciadau i’w aelodau.
Mewn ymateb i geisiadau gan ein haelodau rydym wedi sefydlu cyfrif cynilo Nadolig. Roedd hyn yn dilyn methiant Farepak, pan gollodd llawer o bobl yr arian roeddent wedi’i gynilo ar gyfer y Nadolig.
Fel y gofynnwyd, ni ellir tynnu arian sy’n cael ei roi i mewn i’r cyfrif hwn hyd fis Tachwedd neu mae’n rhaid cau’r cyfrif.
Mae undebau credyd yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) ac mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â Deddf Undebau Credyd 1979. Mae gan bob undeb credyd yswiriant sy’n diogelu eich cynilion rhag lladrad neu dwyll. Mae’n rhaid hefyd i bob undeb credyd gael pwyllgor goruchwylio sy’n archwilio ac yn goruchwylio ei weithgareddau bob dydd.
Hefyd, mae pob undeb credyd yn y wlad hon yn aelodau o’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol, sef cynllun cenedlaethol y mae pob banc a chymdeithas adeiladu yn rhan ohono hefyd. Pe byddai’r undeb credyd yn mynd allan o fusnes, byddai £50,000 cyntaf eich cynilion yn gwbl ddiogel. Dyma rywbeth nad ydym yn ei ragweld gyda’n hundeb credyd ni, ond mae’n gefnogaeth aruthrol i’n haelodau.
Defnyddir cynilion i roi benthyciadau i aelodau. Mae’r llog a geir o fenthyciadau yn cael ei ail-fuddsoddi yn yr undeb credyd. Defnyddir unrhyw beth dros ben i adeiladu cronfeydd wrth gefn a/neu dalu buddran i aelodau; yr aelodau sy’n penderfynu bob blwyddyn yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol faint o ddifidend sy’n cael ei dalu.
Mae aelodau’n rhydd i dynnu eu cynilion allan unrhyw bryd, ar yr amod nad yw’r cynilion yn diogelu benthyciad. Fel arfer, mae angen rhybudd cyn tynnu mwy na £200. Fodd bynnag, anogir aelodau i gadw eu cynilion yn gyflawn. Mae hyn yn sicrhau eich bod:
Cynilwyr iau Mae aelodaeth iau ar gael i’r rheini o dan 16 oed ac mae ymaelodi ag undeb credyd yn ffordd wych o annog pobl ifanc i ddod i arfer â chynilo.
Yn syml, dewch â’ch cynilion (arian neu siec), slip talu a phaslyfr i swyddfa’r undeb credyd yn Ninbych neu i unrhyw un o’n mannau casglu yn ystod oriau agor. Bydd eich paslyfr yn cael ei ddiweddaru ar unwaith.
Un dewis arall haws yw cynilo drwy Archeb Sefydlog. Os oes gennych gyfrif Banc neu Gymdeithas Adeiladu, beth am lwytho ffurflen gorchymyn Archeb Sefydlog i lawr o’r dudalen Llwytho ffurflenni i lawr neu glicio yma a’i hanfon atom drwy’r swyddfa neu un o’r mannau casglu.
Mae rhai cyflogwyr lleol, gan gynnwys Cyngor Sir Ddinbych, yr Awdurdod Iechyd a …., yn darparu cynllun didynnu o’r gyflogres i gyflogeion, lle cymerir cynilion yn syth o gyflogau a’u talu i mewn i’ch cyfrif. Os hoffech drefnu hyn byddem yn falch o roi manylion neu siarad â’ch cyflogwr.
Mae nifer gynyddol o aelodau’n cael rhywfaint neu’r cyfan o’u budd-daliadau wedi’u talu’n syth i’w cyfrif undeb credyd. Mae’r aelodau hynny’n dweud wrthym fod hyn wedi’u galluogi i reoli eu cynilo a’u had-daliadau benthyciad yn well. Mae’n hawdd trefnu hyn.