Cylchlythyr Mehefin 2002
Agoriad
Mawreddog
Dydd Gwener 10fed Mai
Agorwyd ein swyddfa newydd yn 19 Lon Sowter, Dinbych yn swyddogol gan y Cynghorydd David Jones, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych. Roedd y diwrnod yn llwyddiannus iawn. Hefyd yn bresennol yr oedd Chris Ruane AS, Ann Jones AC, Beti Smilovici, Maer newydd Dinbych, Lesley Bird o Ganolfan Coop Cymru a Ray Large o Gyngor Sir Ddinbych. Rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw i gyd am eu cymorth parhaol .
Roedd y diwrnod yn garreg filltir yn natblygiad Caledfryn a hoffem ddiolch i’n gwirfoddolwyr ac ein aelodau am eu gwaith caled i sicrhau llwyddiant y diwrnod mawr.
Safle We
Rydym wedi mynd yn rhyngwladol! Medrwch gael golwg ar ein safle we newydd ar www.caledfryncu.co.uk. Mae’r safle ar ganol ei hadeiladu ac ar ôl ei chwblhau mi fydd yn ddwyieithog. Ar y safle mae esiamplau o gostau benthyciadau wythnosol a misol y gellir eu llwytho i lawr, ffurflenni gorchymyn archeb sefydlog a ffurflenni ymaelodi benthyciadau. Teimlwch yn rhydd i’w defnyddio nhw!
Mi fydd y Cylchlythyr hwn ar gael ar y safle we mewn Cymraeg a Saesneg, ond, os yw’n well gennych gael copi Cymraeg yn y post rŵan neu yn y dyfodol cysylltwch â ni ar 01745 817444.
Wythnos Gŵyl Dinbych
Yn ystod wythnos yr ŵyl byddwn yn brysur iawn. Ar Ddydd Mawrth 25ain o Fehefin am 7yh byddwn y tu allan i’r swyddfa yn ystod Tywallt y Peli. Ar Dydd Mercher 26ain rhwng 12-2 ar y sgwâr, ar Dydd Gwener 28ain rhwng 9-2 ym Marchnad y Bobl ac ar Dydd Sadwrn 29ain o Mehefin yn y Ffair Werdd yn Neuadd y Dre 10-2. Dewch i’n gweld ni
Benthyciadau
Mae hi bron iawn yn Dymor Gwyliau a dylai unrhyw aelod sydd angen benthyciad rhad gysylltu a’r swyddfa neu gwblhau ffurflen o’r safle we cyn gynted â phosibl. Cofiwch, mae ein benthyciadau ar gael ar gyfer nifer o resymau eraill hefyd a dydyn nhw ond yn costio 1% y mis (12.68%APR) ar y balans gostyngol
Gwirfoddolwyr
Rydym wedi cael ymateb da yn ddiweddar wrth recriwtio Gwirfoddolwyr, ond mae dal angen llawer mwy. Os medrwch gynnig dim ond awr o’ch amser rhydd byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr. Os hoffech gynnig peth o’ch amser cysylltwch â’r swyddfa ar 01745 817444. Mae hyfforddiant llawn ar gael i bob gwirfoddolwr newydd.
Aelodaeth
Mae nifer ein haelodaeth yn tyfu yn gyson ac rydym yn agos at y 200 hudol. Cofiwch mae’n rhaid i ni gydweithio’n galed i sicrhau llwyddiant ein Undeb Credyd felly mae’n rhaid i’n aelodaeth barhau i dyfu. Mae ffurflenni ymaelodi ar gael ar y Safle We neu cysylltwch a’r Swyddfa a medrwn eu gyrru i’ch ffrindiau, teulu a’ch cydweithwyr.
Diwrnod Agored–Dinbych
Dydd Sadwrn 8fed Mehefin 10-3yp
Rydym yn cynnal diwrnod agored i’n haelodau ac i bobl sydd â diddordeb mewn ymaelodi.. Rydym yn gobeithio cael eich cefnogaeth ar y diwrnod a chofiwch rannu’r newydd gyda’ch ffrindiau, teulu a’ch cydweithwyr sydd heb ymaelodi!
